Paris, La Fête Nationale 2013

paris13- paris13-2184-2paris13-2280

Above all, it was my curiosity about the famous city that drove me there. I didn’t have any real plan or objective, beyond trying to avoid melting in the heat while I wandered. Probably because of this, seeing hordes of tourists rushing from one attraction to the other relaxed me even more. Purely by chance, I experienced some of the military parade which plays an integral part of the national celebration, and the boastful display of military helicopters did nothing to lessen the feeling of being in an enormous theme park.

Fy chwilfrydedd am y ddinas enwog, yn anad dim, a’m gyrrodd i yno. Doedd gen i’r un cynllun na’r un nod, heblaw geisio osgoi toddi yn y gwres wrth i mi grwydro. Oherwydd hyn, mae’n debyg, roedd gweld heidiau o dwristiaid yn brysio o’r naill atyniad at y llall wedi peri imi ymlacio’n fwy byth. Drwy hap a damwain yn llwyr profais i ychydig o’r orymdaith filwrol sy’n rhan annatod o’r dathliad cenedlaethol, ac ni wnaeth y sioe ymffrostlyd o hofrenyddion rhyfel ddim i leihau’r teimlad o fod mewn parc thema anferth.

Neon

20130701-_MLL1900 20130702-_MLL1941 20130702-_MLL1951

I always enjoy seeing neon signs cutting through the darkness. They make spectacular promises of the most mundane things, and there’s something enjoyable about that.

Rwy’ bob amser yn mwynhau gweld arwyddion neon yn torri trwy ddüwch. Maen nhw’n addo pethau gwych wrth sôn am y pethau lleiaf, ac mae rhywbeth difyr ynglŷn â hynny.

James

20130702-_MLL2035-2

James had never considered living anywhere but Yorkshire before he left for Germany on a three month apprenticeship.

It was there that he trained as a stonemason, and when we met he enthused about the beauty and simplicity of using traditional tools to carve shapes from stone. After five years, and some difficult times, he recently decided to leave Germany and embark on a new life in France. There he hopes to start painting watercolours again and to learn enough French to speak to the girl at his local boulangerie.

Doedd James erioed wedi ystyried byw yn unman ond yn Swydd Efrog cyn iddo fynd i’r Almaen ar brentisiaeth am dri mis.

Yn y fan honno y cafodd ei hyfforddi fel saer maen, a phan gwrddon ni roedd yn siarad yn frwdfrydig am pa mor hyfryd a syml yw defynddio offer traddiodiadol i gerfio siapiau o garreg. Wedi pum mlynedd, a byw trwy rai cyfnodau anodd, yn ddiweddar penderfynodd adael yr Almaen er mwyn dechrau bywyd newydd yn Ffrainc. Yno mae’n gobeithio dechrau paentio lluniau dyfrlliw eto a dysgu digon o Ffrangeg i siarad â’r ferch yn y boulangerie leol.

Fête de la Musique, Rennes 2013

untitled-1

This was a fête to celebrate of the summer solstice, but the festivities didn’t get going instantly. Just as a lizard must sunbathe every morning to gather the energy to move, the crowd seemed to be making the most of the lingering light that evening. After everyone had warmed up and the sun had receded it wasn’t long before the streets were overflowing with people and their beer.
Gŵyl i ddathlu Alban Hefin oedd hwn, ond ni ddechreuodd y miri yn syth. Yn debyg i sut mae’n rhaid i fadfall folaheulo bob bore er mwyn cael egni i symud, roedd y dorf yn manteisio ar y golau a oedd yn hir aros y noson honno. Wedi i bawb gynhesu ac wedi i’r haul gilio fe brysurodd y ddinas, a doedd hi ddim yn hir cyn bod y strydoedd yn gorlifo gan bobl a’u cwrw.